30 January 2025

The Shrewsbury and Telford Hospital NHS Trust (SaTH) is proud to support the Iaith Gwaith (Working Welsh) campaign, a workplace initiative which aims to support Welsh speakers.

The Iaith Gwaith scheme provides orange badges for Welsh-speaking staff to wear which allows patients and visitors to know that they can speak Welsh.

SaTH, which runs the Royal Shrewsbury Hospital and the Princess Royal Hospital, Telford, is the main provider of acute hospital care for almost 500,000 people from Shropshire, Telford and Wrekin and mid Wales. The 2021 census showed that 17.8% of the Welsh population could speak Welsh.

Paula Gardner, Interim Chief Nursing Officer at SaTH, said: “We are incredibly proud to support the Iaith Gwaith scheme which supports the use of the Welsh language, makes Welsh more visible and accessible, and helps to create a more inclusive environment.

“The initiative will help to support patients and visitors at their most vulnerable, which will help us to continue to provide excellent care for the communities we serve.”

The Iaith Gwaith badge is well established and was launched in 2005. To find out more about the scheme, visit Iaith Gwaith | Welsh Language Comissioner.

Ymddiriedolaeth ysbyty i gefnogi siaradwyr Cymraeg

 30 Ionawr 2025

 Mae Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford (SaTH) yn falch o gefnogi ymgyrch Iaith Gwaith, menter gweithle sy’n ceisio cefnogi siaradwyr Cymraeg.

Mae cynllun Iaith Gwaith yn darparu bathodynnau oren i staff sy’n siarad Cymraeg sy’n galluogi cleifion ac ymwelwyr i wybod eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

SaTH, sy’n rhedeg Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol, Telford, yw prif ddarparwr gofal ysbyty acíwt ar gyfer bron i 500,000 o bobl o Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a chanolbarth Cymru. Dangosodd cyfrifiad 2021 fod 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd Paula Gardner, Prif Swyddog Nyrsio Dros Dro SaTH: “Rydym yn hynod o falch i gefnogi cynllun Iaith Gwaith sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, yn gwneud y Gymraeg yn fwy gweladwy a hygyrch, ac yn helpu i greu amgylchedd mwy cynhwysol.

“Bydd y fenter yn helpu i gefnogi cleifion ac ymwelwyr ar eu mwyaf bregus, a fydd yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal ardderchog i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae bathodyn Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf ac fe’i lansiwyd yn 2005. I ddarganfod mwy am y cynllun, ewch i Iaith Gwaith | Welsh Language Comissioner.